Pasio'n mlaen i 'Class War'. Da ni angen cerddorion fel hyn yng Nghymru i gyfansoddi caneuon 'ddi-blewyn ar dafod sy'n datgelu y gwirionedd ar sut mae pethau yma heddiw yng Nghymru parthed ein hachos.
Gweler isod, esboniad gan Ray Jones, aelod o 'Class War' Abertawe, o'r hyn a pwy sydd wedi ysbrydoli'r video a'r gân.
Below: an explanation of who and what has enspired the video and song by Abertawe 'Class War' member Ray Jones.
Mwynhewch...enjoy.
SENGL NEWYDD FLIN YN CYFARCH EICON GYDA GALWAD I’R GÂD I’N HAMSERAU NI
"SHOVEL AND A GUN" (Jones/Donovan/Andersen) - THE ROUGHLER CLUB
Mae’r cyfoethog, y rhai trahaus sydd â’r grym wedi rheoli, ac yn wir wedi difetha ein bywydau ers gormod o amser, ond mae’n fwy gwir heddiw nac erioed. Mae pobol wedi cael digon- daeth yr amser i newid.
Cyflwynir y sengl hon i Ian Bone, sydd wedi gweithio’n ddi-flino drwy ei oes yn gweithredu’n wleidyddol i herio’r ‘Drefn’ sefydledig, ac i hybu newid radical yn y status quo.
Wedi mireinio’i grefft a’i ddaliadau yn y 70au gyda phapur newydd yr "Alarm" yn Abertawe, papur fu’n allweddol yn adrodd ar lwgrwobrwyo yng nghyngor dinas Abertawe, defnyfddiodd rym cerddoriaeth i ledaenu’r neges: yn gyntaf gyda y ‘Swansea anarcho/punk collective Page Three’ (Page Four yn dilyn ffrae efo papur newydd The Sun), ac yna gyda’r ‘Living Legends’. Ar flaen y llwyfan yn y ddau fand oedd dau gorwynt gwych- Bone ei hun a Ray Jones, sydd â dawn dweud gwych o unigryw, fel y dengys ei hunangofiant hynod ‘Drowning on Dry Land’ yn ogystal â’r sengl hon. Mae’r gân wedi ei hysbrydoli gan Bone, ei fywyd a’i waith, a phopeth mae o wedi genhadu drostynt yn y 70 mlynedd diwethaf.
Yn syml, mae’r trac yn gracar! Mae yn aros yn y glust a’r meddwl yn syth, gan ddarlunio’n fyw iawn frwydrau dyddiol pobol gyffredin i oroesi ac i ddal eu pennau uwxh y dŵr mewn dyddiau lle mae’r system wedi ei gwyrdroi yn eu herbyn. Mae geiriau Ray yn taro’r hoelen ar ei phen gyda chywirdeb morthwyl saer profiadol, ac mae trefniant pwerus Toby Andersen gyda bâs ergydiol a gitar finiog yn eu gyrru nhw i’r glust. Y cyn ‘Blockhead’/‘Wilko Johnson’ Norman Watt-Roy sydd ar y bâs, a prif neges diwedd y gân ydi y dylai’r rhai sydd mewn grym wrando, nad ydan ni’r bobol am gymryd ein poenydio mwyach.
Mae Ian Bone wedi gwneud ymgais anhygoel yn ei fywyd i wneud i bobol feddwl, cwestiynau, sefyll i brostestio a mynnu cael newid - mae’r trac yma yn dathliad o’r ymdrech anferth honno, ond hefyd yn alwad i weithredu!
TRACK DETAILS
Geiriau: Ray Jones
Cerddoriaeth : Dan Donovan, Toby Andersen
Trefnu: Toby Andersen
Cynhyrchu : Dan Donovan
Cerddorion:
Ray Jones - lead vocals
Roger Pomphrey (RIP) - guitar
Norman Watt-Roy - bass
Dan Donovan - keyboards, effects
Toby Andersen - keyboards
Tim Hutton - brass
Cassie Lloyd - backing vocals
Nodiadau Teci:
Dyma Ray ar y broses recordio…
"I took a noise to Toby Andersen , he made it sound like a song - looking out the studio window, below stood Roger Pomphrey - kidnapped him to play some guitar - sounded more like song - when Toby got busy with something else, I waylaid Dan Donovan on the street - he put bits of keyboard on it - taking shape now - it needs bass - Roadent's daughter Dixie is Norman's girlfriend, 'Dixie, do you think Norman could....?' - we're cooking now- could do with a bit of brass - Tim Hutton in Leeds, own studio, can play anything - sends back brass stems. Lovely - Dan got stuck into the mixing and Bob's your uncle".
https://www.youtube.com/watch?v=vdUULkUNFo4